Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll Mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019

 

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Is-adran Iechyd y Cyhoedd o'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac fe’i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig uchod yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll Mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019. Rwy’n fodlon bod y manteision yn drech nag unrhyw gostau.

 

 

Vaughan Gething AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Mehefin 2019

 

 


 

1. Disgrifiad

 

1. Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) yn ceisio gwella a diogelu iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, drwy ddarpariaethau mewn meysydd ar wahân o bolisi iechyd y cyhoedd. Bwriedir i’r holl ddarpariaethau hyn gyda’i gilydd gael effaith gadarnhaol ar gyfer poblogaeth Cymru, ac maent yn ceisio creu amodau sy’n bwysig ar gyfer iechyd da, lle gellir atal niwed i iechyd.

 

2. Mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn ymwneud yn benodol â’r darpariaethau ynghylch rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn Rhan 5 o'r Ddeddf. Daeth Rhan 5 i rym ar 1 Chwefror 2018, ac mae'n gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc dan 18 oed yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r gwaharddiad yn berthnasol i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio eitemau o emwaith yn unig. Bydd y Rheoliadau hyn yn ymestyn cwmpas y drosedd yn Rhan 5 i gynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio "unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith". Wrth wneud hyn, bydd gwaharddiad llwyr ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc dan 18 oed yng Nghymru drwy wahardd rhoi twll gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio. .  

 

 

 

2. Materion o Ddiddordeb Arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

1. Amherthnasol.

 

 

3.  Y Cefndir Deddfwriaethol

 

1. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud y rheoliadau hyn o dan adrannau 94(1) a 123(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Mae’r Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r weithdrefn gadarnhaol.

 

 

4.  Diben y Ddeddfwriaeth a'r Effaith y Bwriedir iddi ei Chael

 

 

1.  Daeth Rhan 5 o'r Ddeddf i rym ar 1 Chwefror 2018, gan wahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff, neu wneud trefniadau ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc dan 18 oed yng Nghymru.

 

Twll mewn rhan bersonol o'r corff yw twll (fel y diffinnir yn adran 94(1) o'r Ddeddf) a roddir mewn rhan bersonol o'r corff lle bo hynny'n digwydd am reswm nad yw'n ymwneud â thriniaeth feddygol.

 

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’r gwaharddiad hwn yn berthnasol i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio eitemau o emwaith yn unig.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi "unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith" fel gwrthrych at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o "dyllu'r corff" yn adran 94(1), ond dim ond i'r graddau bod y diffiniad hwnnw yn berthnasol at ddibenion y drosedd yn adran 95 o'r Ddeddf.  Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd o dan adrannau 94(1) a 123(1) o'r Ddeddf. Bydd y Rheoliadau felly yn ehangu cwmpas y drosedd yn Rhan 5 o'r Ddeddf i gynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith. Effaith hyn fydd gwahardd pob twll mewn rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio.

 

Bydd cyflwyno'r Rheoliadau hyn yn diogelu plant o dan 18 oed yng Nghymru rhag y niwed posibl i’w hiechyd a allai gael ei achosi drwy roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio gemwaith neu wrthrychau nad ydynt yn emwaith.   

    

5.  Ymgynghori

 

1.  Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau drafft dros gyfnod o 12 wythnos, o 30 Gorffennaf tan 19 Hydref 2018. Cafwyd 14 o ymatebion gan ymarferwyr tyllu’r corff, awdurdodau lleol, cyrff cynrychioliadol ac unigolion, ac mae’r rheini wedi cael eu dadansoddi. 

 

2.  Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn gefnogol i’r hyn a gynigiwyd yn y ddogfen ymgynghori a’r Rheoliadau drafft arfaethedig. Roedd nifer o’r ymatebion yn mynegi pryderon ynghylch a oedd y rhestr o wrthrychau yn ddigonol gan ystyried y tymor hir, ac awgrymwyd y byddai’n well peidio â rhestru’r gwahanol fathau o ‘wrthrych’ yn adran 2(2)(a-d) o’r Rheoliadau drafft a chadw dim ond y diffiniad trosfwaol “unrhyw wrthrych arall nad yw’n emwaith ” yn adran 2(2)(e)’.  

 

3.  Yr amcan polisi yw gwahardd yn llwyr rhoi unrhyw dyllau mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed, gan gynnwys gwneud trefniadau i dyllu'r corff, ac eithrio pan fo'r twll yn cael ei roi yn ystod triniaeth feddygol. Mae rhagnodi "unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith" yn cyflawni'r amcan hwn, yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn darparu eglurder a sicrwydd at ddibenion gorfodi. 

 

Effaith y Rheoliadau yw y bydd pob achos o roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan oed gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio, yn dod o dan y drosedd yn Rhan 5 o'r Ddeddf. 

 

 

4.  Mae dadansoddiad o’r ymatebion a dderbyniwyd, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt, wedi’u cynnwys yn y Crynodeb o’r Ymatebion, sydd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru:

 

https://llyw.cymru/rheoliadau-drafft-i-ddiffinio-gwrthrychau-ddefnyddir-wrth-roi-twll-mewn-rhan-bersonol-or-corff

 

 

 

 

 


 

 

RHAN 2 -   ASESIAD EFFAITH REOLEIDDIOL

 

 

Asesiad Effaith Reoleiddiol

mewn perthynas â

Rheoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll Mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019

 

Cyflwyniad

 

1.         Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) drafft hwn wedi ei ddatblygu er mwyn ystyried goblygiadau cyflwyno Rheoliadau o dan adrannau 94(1)(b) a 123(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 [1](“y Ddeddf”). Bydd y Rheoliadau yn rhagnodi “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” fel gwrthrych at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o "dyllu'r corff" yn adran 94(1) ond dim ond i'r graddau bod y diffiniad hwnnw'n berthnasol at ddibenion y drosedd yn adran 95 o'r Ddeddf, sef rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18. Daeth Rhan 5 o'r Ddeddf (Y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn) i rym ar 1 Chwefror 2018. Bydd y Rheoliadau felly yn ymestyn cwmpas y drosedd yn Rhan 5 o'r Ddeddf i gynnwys twll mewn rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith, a fydd yn cael yr effaith o wahardd pob achos o dyllu'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio. 

 

Y Sefyllfa Bresennol

 

2.         Roedd cychwyn Rhan 5 o’r Ddeddf ym mis Chwefror 2018 yn ei gwneud yn drosedd rhoi twll, neu wneud trefniadau i roi twll, mewn rhan bersonol o gorff person sydd o dan 18 oed yng Nghymru. Mae adran 96 o’r Ddeddf yn diffinio rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff fel tyllu’r corff mewn rhan bersonol pan fo’n cael ei roi ac eithrio yng nghwrs triniaeth feddygol. Diffiniad “tyllu’r corff” yw’r broses o wneud trydylliad (gan gynnwys tyllu neu endorri) yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi i emwaith, neu “wrthrych” arall, gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn. Mae deg "rhan bersonol o’r corff" a gaiff eu rhestru yn adran 96 o’r Ddeddf, gan gynnwys y fron, yr organau cenhedlu, y ffolennau a'r tafod. Mae’r gwaharddiad presennol yn cynnwys yr holl driniaethau ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff sy’n defnyddio gemwaith yn unig. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “gwrthrych o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau neu o dan reoliadau” yn y gwaharddiadau hynny. Mae'r Rheoliadau drafft hyn yn rhagnodi (at ddibenion Rhan 5 yn unig) "unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith". Mae hyn yn ehangu cwmpas y drosedd yn Rhan 5 o’r Ddeddf i gynnwys gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd rhan bersonol o gorff plentyn, gyda golwg ar alluogi i unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith gael ei atodi i gorff y plentyn, ei fewnblannu yng nghorff y plentyn neu ei dynnu o gorff y plentyn. Mewn geiriau eraill, bydd y Rheoliadau drafft hyn yn ymestyn y gwaharddiad i gynnwys pob driniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio "gwrthrych nad yw'n emwaith". Mae hyn yn golygu pan fydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym, y bydd y gwaharddiad yn Rhan 5 yn dal pob achos o dyllu rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio.

Goblygiadau rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn neu berson ifanc dan 18 oed (pobl ifanc dan oed)

 

3.         Gan fod pobl ifanc yn parhau i dyfu yn eu harddegau, gallai twll mewn rhan bersonol o’u corff arwain at ragor o gymhlethdodau wrth i’w cyrff ddatblygu. Hefyd, gall fod yn llai tebygol bod gan bobl ifanc y profiad neu’r wybodaeth o ran sut i lanhau neu ofalu am dwll mewn rhan bersonol o’u corff, sy’n golygu mwy o berygl o haint. Gall cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thyllu’r corff gynnwys chwyddo, haint, gwaedu, alergedd a rhwyg neu anaf corfforol. Gallai’r driniaeth achosi niwed i nerfau neu greithio os caiff y driniaeth tyllu’r corff ei pherfformio’n wael. Gall cymhlethdodau fod yn arbennig o ddifrifol i’r rhai â chyflyrau iechyd gwaelodol, a chofnodwyd achosion pan fu i unigolion farw ar ôl cael triniaeth tyllu’r corff. Yn ogystal â hynny, er nad yw’n gyffredin, gall arferion anniogel neu anhylan arwain at drosglwyddo clefydau heintus megis y rhai a achosir gan feirysau a gludir yn y gwaed[2].

 

4.         Canfu arolwg[3] ar dyllu’r corff a gynhaliwyd yn Lloegr fod mwy na chwarter y bobl a gafodd driniaeth tyllu’r corff (ar wahân i labedi’r clustiau) wedi cael profiad o gymhlethdodau, a bod oddeutu hanner ohonynt wedi ystyried y cymhlethdodau yn ddigon difrifol i chwilio am gymorth ychwanegol. Roedd nifer yr achosion yn uwch ymhlith y rhai rhwng 16 a 24, ac arweiniodd traean o’r triniaethau tyllu’r corff at broblemau iechyd neu gymhlethdodau. Canfuwyd yn yr un astudiaeth fod rhagor o achosion newydd o gymhlethdodau yn digwydd mewn cysylltiad â mathau penodol o dyllu’r corff, gan gynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff – y mwyaf tebygol o arwain at adroddiadau oedd tyllu’r organau cenhedlu (45%) a’r tethi (38%).

 

Diben ac Effeithiau y Rheoliadau Drafft

 

5.         Prif ddiben y Rheoliadau drafft hyn yw diogelu plant a phobl ifanc rhag y niwed posibl i’w hiechyd a allai gael ei achosi o ganlyniad i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio unrhyw “wrthrych” (pa un a yw’n cael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu neu ei dynnu o’r corff). Mae’r cymhlethdodau iechyd posibl sy’n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “gwrthrychau” yn cynnwys chwyddo, haint, gwaedu, alergedd, a rhwyg neu anaf. Gallai’r driniaeth achosi niwed i nerfau neu greithio os caiff y driniaeth tyllu’r corff ei pherfformio’n wael. Er eu bod yn brin, gall cymhlethdodau oherwydd tyllu’r corff olygu bod yn rhaid mynd i’r ysbyty am driniaeth a gallent fod yn arbennig o ddifrifol i’r rhai â chyflyrau iechyd gwaelodol. Gallai cymhlethdodau godi o ddefnyddio "unrhyw wrthrych" yn ogystal â’r rheini sy’n defnyddio gemwaith megis modrwyon. Bydd gwahardd "unrhyw wrthrych" yn helpu i sicrhau y cyflawnir nod Llywodraeth Cymru, sef diogelu plant a phobl ifanc yn llwyr rhag y niwed posibl y gallai rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ei achosi (fel y cyfeiriwyd ato uchod). Yn ogystal â’r niwed posibl i iechyd, mae Rhan 5 o’r Ddeddf (a’r rheoliadau a wneir mewn perthynas â hi) hefyd yn ceisio diogelu plant a phobl ifanc drwy wahardd amgylchiadau lle cânt eu rhoi mewn sefyllfa lle gallent fod yn agored i niwed, megis wrth ddadorchuddio rhannau personol o’r corff i berson a allai fod yn ddieithryn iddynt cyn hynny. 

 

 

Ystyriaethau o ran Costau a Manteision

 

6.         Darperir ystyriaeth fanwl o gostau a manteision Rhan 5 o’r Ddeddf yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf sydd ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru[4]. Yn y ddogfen hon, trafodir dim ond y costau a’r manteision hynny sy’n ychwanegol i’r rheini sydd eisoes wedi eu hystyried yn rhan o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl hwnnw.

 

Dewisiadau 

 

7.         Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn ystyried dau ddewis:

 

•           Dewis Un – Gwneud dim byd

 

•           Dewis Dau (y dewis a ffefrir) – Defnyddio’r grym o fewn y Ddeddf (adrannau 94(1) a 123(1)) i gyflwyno Rheoliadau i ragnodi “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o "dyllu'r corff yn adran 94(1) ond dim ond i'r graddau bod y diffiniad yn berthnasol at ddibenion Rhan 5 o’r Ddeddf (Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff). 

 

 

Dewis Un – Gwneud Dim Byd

 

Disgrifiad

 

8.         Ni fyddai unrhyw newid yn cael ei wneud i’r ddeddfwriaeth bresennol o dan y dewis hwn. Byddai hyn yn golygu y byddai rhoi twll, neu wneud trefniadau i roi twll, mewn rhan bersonol o gorff plentyn dan 18 oed yng Nghymru gan ddefnyddio gemwaith yn parhau i fod yn drosedd, ond ni fyddai’n drosedd gwneud hyn gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” megis angorau croenol a microgroenol, rhodenni, pinnau cau, deifwyr croen, cloeon ac ati. Byddai hyn yn gadael plant a phobl ifanc yng Nghymru mewn perygl gan y byddai'n parhau i fod yn bosibl yn gyfreithiol iddynt gael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith. 

 

Costau

 

9.         Nid yw’r dewis hwn yn cynnig unrhyw newid felly ni fyddai unrhyw gostau ychwanegol i Lywodraeth Cymru, i swyddogion gorfodi’r awdurdodau lleol nac i fusnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff o ganlyniad i wneud dim. Fodd bynnag byddai ychydig o gostau yn parhau i fodoli ar gyfer y GIG yng Nghymru mewn perthynas â thrin cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â pharhau â’r arfer o berfformio triniaethau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed, megis chwyddo, haint, gwaedu, alergedd, niwed i nerfau, creithio a rhwygo neu anaf corfforol. Darparwyd cadarnhad gan Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl y Ddeddf o’r effaith ariannol ar y GIG yng Nghymru o ganlyniad i drin cymhlethdodau sy’n deillio o roi twll mewn rhan bersonol o gyrff pobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru. Roedd y costau hynny yn gyfrifiadau tybiaethol yn seiliedig ar y data cyfyngedig sydd ar gael ynghylch nifer y triniaethau rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru, ac roeddent wedi eu seilio ar bob math o driniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed. Ni wahaniaethwyd rhwng rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio gemwaith, neu unrhyw wrthrych arall nad yw'n emwaith. 

 

 

Manteision

 

10.       Nid oes manteision ychwanegol yn deillio o dewis hwn. Gallai busnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff barhau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff pobl ifanc dan oed yng Nghymru gan ddefnyddio unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith, ac ni fyddai unrhyw gyfyngiadau arnynt i’w hatal rhag gwneud hyn.

 

Casgliad

 

11.       Ni ystyrir bod y dewis o beidio â gwneud unrhyw beth yn ddigonol nac yn briodol gan y byddai plant a phobl ifanc yn parhau i fod mewn perygl o niwed.

 

Dewis Dau – Defnyddio’r darpariaethau yn adrannau 94(1) a 123(1) o’r Ddeddf i gyflwyno Rheoliadau er mwyn ymestyn y diffiniad o "tyllu'r corff" i ragnodi “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” ond dim ond i'r graddau bod y diffiniad yn berthnasol at ddibenion Rhan 5 o'r Ddeddf (Tyllu rhan bersonol o'r corff).   

 

12.       Mae'r dewis hwn yn diwygio'r diffiniad o "tyllu'r corff" yn adran 94 o'r Ddeddf. Drwy wneud hynny, mae'n cyflwyno gwaharddiad llwyr mewn perthynas â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn dan 18 oed yng Nghymru. Bydd y Rheoliadau drafft hyn yn ymestyn y gwaharddiad presennol i gynnwys pob triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o gorff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith”. Byddai’r dewis hwn yn golygu, pan fo'r Rheoliadau yn dod i rym, bod y gwaharddiad yn Rhan 5 (rhoi twll (neu wneud trefniadau i roi twll) mewn rhan bersonol o gorff plentyn dan 18 oed yng Nghymru) yn dal pob achos o dyllu'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio.    

 

Costau

 

13.       Disgwylir i holl gostau’r dewis hwn fod yn gostau untro neu bontio, sy’n gysylltiedig â hysbysu awdurdodau lleol a busnesau am y Rheoliadau newydd. Disgwylir y bydd angen ysgwyddo’r costau hyn yn 2019/2020 – 2020/2021.

 

Llywodraeth Cymru

 

14.       Nodwyd y costau i Lywodraeth Cymru ar gyfer hysbysu bod gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn dod i rym ym mis Chwefror 2018, ynghyd â chreu a rhaeadru canllawiau yn ymwneud â’r gwaharddiad hwnnw, yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf, a chawsant eu hysgwyddo’n llwyr pan ddaeth y Rheoliadau newydd ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff i rym ym mis Chwefror. Bydd angen cynnal ymarfer cyfathrebu ychwanegol ar raddfa fach, serch hynny, er mwyn cyflwyno’r Rheoliadau hyn. Bydd yr ymarfer hwn yn hysbysu’r rhanddeiliaid allweddol hynny am y Rheoliadau newydd a’u gwneud yn ymwybodol y bydd y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oedd hefyd yn cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” yn ogystal â gemwaith, ac o ganlyniad bydd y gwaharddiad yn cynnwys pob achos o roi twll mewn rhan bersonol o gorff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych. Bydd y ohebiaeth yn cael ei chynnal drwy nifer o ddulliau dwyieithog, megis negeseuon e-bost a llythyrau ac ati i’r rhanddeiliaid perthnasol fel y bo’n briodol.

 

15.       Fel rhan o’r ymarfer cyfathrebu a gyhoeddodd y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror 2018, creodd Llywodraeth Cymru dair dogfen ganllawiau ddwyieithog[5] a ddosbarthwyd i ymarferwyr a busnesau tyllu’r corff, ac i swyddogion gorfodi, a’u hysbysebu i unigolion o dan 18 oed a’u rhieni/gwarcheidwaid. Fel rhan o’r ymarfer cyfathrebu newydd, bydd angen gwneud mân ddiwygiadau i’r dogfennau canllawiau ar gyfer ymarferwyr a busnesau tyllu’r corff, a swyddogion gorfodi. Byddai hyn gyfwerth â 0.5 awr o amser swyddogion polisi i ddiwygio/diweddaru testun y ddwy ddogfen ddwyieithog hynny (gan gynnwys prosesu ar gyfer cyfieithu ac ati), sy’n cyfateb i gyfanswm cost o £8.50 (gweler y tabl isod ar gyfer costau llawn).

 

16.       Ar ôl adolygu’r dogfennau canllawiau dwyieithog hynny, byddai angen eu rhaeadru i’r cynulleidfaoedd perthnasol yng Nghymru. O ran busnesau ac ymarferwyr, pan ddaeth y ddeddf newydd ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff i rym ym mis Chwefror 2018, cyhoeddwyd y canllawiau dwyieithog gwreiddiol ar gyfer y sector hwnnw yn electronig ac ar ffurf copi papur, ac anfonwyd y copïau papur atynt ynghyd â llythyr eglurhaol dwyieithog. Nid yw’n fwriad gan swyddogion polisi i ail-gyhoeddi copïau caled o’r canllawiau diwygiedig ar gyfer busnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff yng Nghymru. Y bwriad yw rhoi gwybod i’r rhanddeiliaid hynny fod y canllawiau wedi’u diweddaru drwy lythyr dwyieithog a anfonir atynt drwy’r post. Caiff testun y llythyr dwyieithog hwn ei ddrafftio gan swyddogion Llywodraeth Cymru a bydd yn cyflawni swyddogaeth hysbysiad ffurfiol o gyflwyniad, ac effaith, y Rheoliadau hyn. Bydd hefyd yn hysbysu ymarferwyr a busnesau fod y canllawiau dwyieithog wedi eu diweddaru a’u bod ar gael yn electronig er mwyn iddynt gyfeirio atynt a’u lawrlwytho o wefan Llywodraeth Cymru. Bydd drafftio'r llythyr dwyieithog yn cymryd 1 awr o amser swyddogion a chyfanswm cost o £22.00 (gweler y tabl isod ar gyfer costau llawn). Bydd swyddogion yn gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru am gymorth wrth gynhyrchu a dosbarthu’r llythyrau dwyieithog ar ffurf copi papur i’r holl fusnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff yn eu hardaloedd perthnasol. Caiff y costau llawn sy’n gysylltiedig â chreu’r llythyr, y deunyddiau perthnasol ac anfon drwy’r post i fusnesau ac ymarferwyr (h.y. papur, argraffu, amlenni, a phostio) eu talu gan awdurdodau lleol yng Nghymru (gweler effeithiau cost ar awdurdodau lleol yn y tabl priodol isod).  

 

 

18.       Anfonir yr ohebiaeth at swyddogion yr heddlu drwy lythyr dwyieithog a gaiff ei ddrafftio gan swyddogion polisi a’i raeadru drwy e-bost gan swyddogion Uned Cyswllt yr Heddlu Llywodraeth Cymru. Caiff ei gyhoeddi ymlaen llaw cyn i’r Rheoliadau ddod i rym a bydd yn darparu’r hysbysiadau ffurfiol angenrheidiol ar gyfer cyflwyno’r Rheoliadau hyn a’u heffaith ar y rhanddeiliaid allweddol. Bydd hefyd yn hysbysu Swyddogion yr Heddlu bod y canllawiau dwyieithog wedi eu hadolygu a’u bod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru i gyfeirio atynt a’u lawrlwytho. Byddai yn cymryd 1 awr i swyddogion polisi ddrafftio testun dwyieithog y llythyr a’r e-bost eglurhaol ac i swyddogion Uned Cyswllt yr Heddlu ddosbarthu'r neges e-bost i’r 4 Pencadlys yr Heddlu ledled Cymru am gyfanswm cost o £22.00 (gweler y tabl isod ar gyfer y costau llawn).

 

19.       Yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl ar gyfer y Ddeddf, nodwyd y costau sy’n gysylltiedig â’r hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Swyddogion Gorfodi yr awdurdodau lleol, yn ogystal â staff perthnasol eraill yr awdurdodau lleol, a Swyddogion yr Heddlu, mewn cysylltiad â’r ddeddf rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2018. Cafodd y costau hynny eu hysgwyddo'n llawn drwy gynnal tri chwrs hyfforddi ar draws Cymru yn y cyfnod cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror. Roedd y cyrsiau hyfforddi a ddarparwyd ar yr adeg honno yn gynhwysfawr iawn ac yn cynnwys pob agwedd ar y ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Gan mai'r cyfan y mae’r Rheoliadau drafft newydd yn ei wneud yw gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan oed, ni fydd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu unrhyw fath o hyfforddiant ychwanegol i’r awdurdodau lleol, eu Swyddogion Gorfodi na Swyddogion yr Heddlu. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, bydd angen i swyddogion ddarparu gohebiaeth ffurfiol i Swyddogion Gorfodi a Swyddogion yr Heddlu ynghylch y Rheoliadau newydd, eu goblygiadau, a’r cynlluniau cyfathrebu a ddatblygir ymhellach gan Lywodraeth Cymru. Ceir manylion y costau yn yr adrannau perthnasol uchod ac mae’r tabl isod yn nodi'r costau llawn a ysgwyddir gan Lywodraeth Cymru. 

 

Costau i Lywodraeth Cymru

 

Cam Gweithredu

 

Amser y staff, Cyfradd yr Awr a Chyfanswm y Gost

Deunyddiau

CYFANSWM y Costau

Amser y swyddogion i ddiweddaru’r canllawiau dwyieithog ar gyfer busnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff a hefyd ar gyfer swyddogion gorfodi, a lanlwytho'r ddwy ddogfen i wefan Llywodraeth Cymru.

1) 0.5 awr i ddiweddaru’r testun @ £17.00 yr awr = £8.50

 

 

 

£8.50

Amser y swyddogion i wneud drafft o’r testun dwyieithog ar gyfer y llythyr a gaiff ei gyhoeddi gan awdurdodau lleol yng Nghymru i holl fusnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff yng Nghymru.

 

1) 1 awr i ddrafftio llythyr @ £22.00 yr awr = £22.00

 

 

 

£22.00

Amser y swyddogion i ddrafftio’r testun dwyieithog ar gyfer y datganiad e-bost i awdurdodau lleol a’r llythyr electronig cysylltiedig.

1) 1 awr i ddrafftio’r e-bost a’r llythyr @ £22.00 yr awr = £22.00

 

 

 

£22.00

Amser y Swyddogion i ddrafftio’r testun dwyieithog ar gyfer yr ohebiaeth e-bost i’r 4 Heddlu yng Nghymru a llythyr electronig cysylltiedig.

 

1) 1 awr i ddrafftio’r e-bost a’r llythyr @ £22.00 yr awr = £22.00

 

 

£22.00

CYFANSWM Y GOST

 

£74.50

 

 

Awdurdodau Lleol

 

20.       Bydd ychydig o gostau ychwanegol i Swyddogion Gorfodi yr awdurdodau lleol gan y bydd angen iddynt fod yn ymwybodol o’r Rheoliadau newydd, eu heffaith a’u goblygiadau, a’r dogfennau canllawiau dwyieithog diwygiedig, yn enwedig yr un ar gyfer â Swyddogion Gorfodi (gweler y costau wedi eu nodi yn y tabl isod ar gyfer awdurdodau lleol).

 

21.       Bydd angen i Banel Arbenigwyr Clefydau Trosglwyddadwy a Phanel Arbenigwyr Iechyd a Diogelwch yr awdurdodau lleol ystyried y Rheoliadau newydd ar sail Cymru gyfan yn ystod un o’u cyfarfodydd chwarterol rheolaidd gan y bydd hyn yn sicrhau cysondeb o ran dehongli'r Rheoliadau newydd, yn ogystal ag eglurdeb a chysondeb wrth orfodi'r Rheoliadau newydd ar draws y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd hyn yn gofyn am gyfanswm o 10 munud o amser 6 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ym mhob un o’r Paneli Arbenigwyr i ystyried y Rheoliadau newydd am gyfanswm cost o £140.00. Yn ogystal â hynny, byddai’n cymryd 15 munud o amser 6 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ym mhob un o’r Paneli Arbenigwyr i ddosbarthu gwybodaeth am y Rheoliadau newydd a’r trafodaethau yn y Paneli Arbenigwyr i aelodau allweddol o’u timau, am gyfanswm cost o £210.00. Nodwyd y rhain yn y tabl ar gyfer costau yr awdurdodau lleol isod.

 

22.       Ni fydd yn ofynnol i Swyddogion Gorfodi fynd i sesiynau hyfforddi mewn perthynas â’r Rheoliadau newydd. Cafodd costau darparu hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru i Swyddogion Gorfodi yr awdurdodau lleol ac ati mewn perthynas â chyflwyno’r gyfraith newydd ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror 2018 eu nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl ar gyfer y Ddeddf. Cafodd y costau hynny eu hysgwyddo'n llawn drwy gynnal tri chwrs hyfforddi ar draws Cymru yn y cyfnod cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror. Roedd y cyrsiau hyfforddi a ddarparwyd ar yr adeg honno yn gynhwysfawr iawn ac yn cynnwys pob agwedd ar y ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Gan fod y Rheoliadau newydd yn ymwneud â rhagnodi “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” at ddibenion rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, gan ymestyn y drosedd yn Rhan 5 i gynnwys pob achos o roi twll mewn rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio, nid oes angen unrhyw fath o hyfforddiant ychwanegol ar gyfer y Swyddogion Gorfodi. Nid oes costau eraill felly yn gysylltiedig â’r angen i swyddogion yr awdurdodau lleol gael hyfforddiant ar gyfer y Rheoliadau newydd. Fel y nodwyd uchod fodd bynnag, bydd swyddogion yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â Swyddogion Gorfodi ar nifer o faterion ynglŷn â chyflwyno’r Rheoliadau newydd, ond caiff y costau hynny eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi eu cynnwys yn nhabl costau Llywodraeth Cymru uchod. 

 

23.       Bydd Swyddogion Gorfodi allweddol ar draws y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn adborth gan eu Huwch Swyddogion Gorfodi ar y trafodaethau ar y Rheoliadau newydd yng nghyfarfodydd y ddau Banel Arbenigwyr. Bydd angen iddynt wedyn ymgyfarwyddo â’r Rheoliadau newydd a’r dogfennau canllawiau dwyieithog wedi eu diweddaru ar gyfer Swyddogion Gorfodi a busnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff. Bydd y costau cysylltiedig yn 15 munud o amser 10 o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru am gyfanswm cost o £2,750.00. Nodwyd y rhain yn y tabl ar gyfer costau yr awdurdodau lleol isod.

 

24.       Fel y nodwyd uchod, gofynnir i’r awdurdodau lleol gynorthwyo swyddogion Llywodraeth Cymru drwy gyhoeddi’r llythyr hysbysu ffurfiol (fel y cafodd ei ddrafftio gan Lywodraeth Cymru) sy’n sôn am y Rheoliadau newydd, eu goblygiadau, ac yn rhoi gwybod bod y dogfennau canllawiau dwyieithog wedi eu diweddaru ac ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a’i ddosbarthu i’r holl fusnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff yn eu hardaloedd cyn i’r Rheoliadau newydd ddod i rym. Bydd hyn yn cymryd 8 awr o amser yr awdurdodau lleol ar gyfradd £20.00 yr awr (ar sail Cymru gyfan) i nodi cyfeiriadau, argraffu, rhoi mewn amlenni a phostio 500 o lythyrau i fusnesau ac ymarferwyr ar draws Cymru am gost o £160.00 ar gyfer Cymru gyfan. Bydd hefyd cost o £1 fesul llythyr ar gyfer: adnoddau argraffu, papur, amlenni, a stampiau post ar gyfer y 500 o lythyrau, sef cost o £500 ar gyfer Cymru gyfan (gweler y costau a nodwyd yn y tabl isod ar gyfer yr awdurdodau lleol).

 

25.       Mae’n bosibl y bydd angen i Swyddogion Gorfodi hefyd ymdrin ag ymholiadau yn ôl yr angen gan fusnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff ynglŷn â’r Rheoliadau. Mae’n anodd meintioli cost hyn. Yn seiliedig ar y dystiolaeth am y nifer bach iawn o ymholiadau a wnaed i awdurdodau lleol ar draws Cymru gyfan pan ddaeth y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff i rym ym mis Chwefror 2018, mae’n debygol iawn na fydd ond llond llaw o ymholiadau ar gyfer y Rheoliadau newydd. Ni phennwyd costau ar gyfer hyn felly.

 

26.       Yn ogystal, bydd y Rheoliadau newydd yn ehangu pwerau Swyddogion Gorfodi at ddibenion cymryd camau gorfodi yn erbyn triniaethau rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru i gynnwys defnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” yn ychwanegol at eu pwerau presennol ar gyfer gorfodi yn erbyn rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru gan ddefnyddio gemwaith. Nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl ar gyfer y Ddeddf fod 6 erlyniad y flwyddyn sy'n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru. Nid oedd yn bosibl nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwnnw gyfran yr erlyniadau hynny a oedd yn cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith" yn hytrach na gemwaith, felly ar y sail honno ni fydd cyflwyno’r Rheoliadau newydd ar gyfer “gwrthrychau” yn achosi unrhyw gostau ychwanegol i’r awdurdodau lleol yng Nghymru mewn cysylltiad ag erlyniadau.

 

27.       Yn yr un modd â’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2018, nid oes gofyniad penodol ar gyfer amserlen o arolygiadau rheolaidd o leoliadau ar gyfer y Rheoliadau newydd hyn, nac o ganlyniad iddynt. Roedd eisoes yn ofynnol i Swyddogion Gorfodi gyflawni dyletswyddau gorfodi mewn cysylltiad â phersonau[6] sy’n perfformio triniaethau rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff cyn i’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gael ei chyflwyno ym mis Chwefror 2018, a nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl ar gyfer y Ddeddf y byddai ychydig o gostau ychwanegol yn ymwneud â staff yr awdurdodau lleol ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror. Er bod y Rheoliadau newydd hyn i gynnwys “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” o fewn cwmpas y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru yn ychwanegu rhywfaint at bwerau gorfodi’r Swyddogion Gorfodi, nid ydynt yn achosi beichiau sylweddol o ran eu dyletswyddau presennol, gwirioneddol sy’n ymwneud â deddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Ar y sail honno, ni fydd cyflwyno’r Rheoliadau newydd hyn yn arwain at unrhyw gostau ychwanegol yn ymwneud â dyletswyddau gorfodi’r awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

Yr Heddlu

 

28.       Bydd angen i Swyddogion yr Heddlu yng Nghymru fod yn ymwybodol o’r Rheoliadau newydd a’u goblygiadau, a hefyd o’r dogfennau canllawiau dwyieithog wedi eu diweddaru ar gyfer Swyddogion Gorfodi (yn benodol), a’r canllawiau ar gyfer ymarferwyr a busnesau tyllu’r corff. Gan fod y Rheoliadau newydd yn ehangu cwmpas deddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff sydd eisoes ar waith yng Nghymru, ac na ddisgwylir ond mân newidiadau i’r dogfennau canllawiau, mae’n debygol na fyddai bron ddim costau yn gysylltiedig â nodi’r newidiadau ac felly ni chafodd costau eu nodi.

 

29.       Ni fydd yn ofynnol i Swyddogion yr Heddlu gael unrhyw hyfforddiant ar y Rheoliadau newydd hyn. Cafodd costau’r hyfforddiant a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i Swyddogion yr Heddlu ac ati ynglŷn â’r ddeddf newydd ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2018, eu nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Ddeddf. Cafodd y costau hynny eu hysgwyddo'n llawn drwy gynnal tri chwrs hyfforddi ar draws Cymru yn y cyfnod cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror. Roedd y cyrsiau hyfforddi a ddarparwyd ar yr adeg honno yn gynhwysfawr iawn ac yn cynnwys pob agwedd ar y ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Gan fod y Rheoliadau newydd yn ymwneud â rhagnodi “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” at ddibenion rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, gan ymestyn cwmpas y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o'r corff i gynnwys defnyddio pob gwrthrych, boed yn emwaith neu beidio, nid oes angen unrhyw fath o hyfforddiant ychwanegol ar gyfer y Swyddogion yr Heddlu ac ati. Nid oes costau unrhyw gostau eraill yn gysylltiedig â hyfforddi Swyddogion yr Heddlu yn hynny o beth.

 

30.       Fodd bynnag, fel y nodwyd yn yr adran uchod ar gyfer costau Llywodraeth Cymru, bydd swyddogion o Uned Cyswllt yr Heddlu Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â Swyddogion yr Heddlu drwy gyhoeddi llythyr dwyieithog ffurfiol drwy e-bost i Bencadlys bob un o’r 4 Heddlu yng Nghymru, yn eu gwneud yn ymwybodol y bydd pob gwrthrych, boed yn emwaith neu beidio, yn cael eu dal dan y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru, ar ôl cyflwyno’r Rheoliadau newydd. Bydd y llythyr hefyd yn cyfeirio at y dogfennau canllawiau wedi eu diweddaru a fydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y costau i Uned Cyswllt yr Heddlu yn gysylltiedig ag anfon e-bost at Swyddogion yr Heddlu ar draws Cymru gan dynnu eu sylw at lythyr Llywodraeth Cymru, nodi bod cwmpas y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff wedi ei ehangu o ganlyniad i’r Rheoliadau newydd, ac iddynt fod yn ymwybodol o’r diwygiadau i’r dogfennau canllawiau, yn fach iawn ac yn cael eu cynnwys yn y cyllidebau gweithredol. Ni chafodd costau eu nodi felly.

 

 

 

 

Costau i’r Awdurdodau Lleol

 

Cam Gweithredu

 

Amser y staff, Cyfradd yr Awr a Chyfanswm y Gost

Deunyddiau

CYFANSWM y Costau

Amser 6 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (6 x 10 munud) i drafod y Rheoliadau mewn cyfarfod Panel Arbenigwyr Clefydau Trosglwyddadwy ac amser 6 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (6 x 10 munud) i drafod y Rheoliadau mewn cyfarfod Panel Arbenigwyr Iechyd a Diogelwch.

 

1) 10 munud trafod y Rheoliadau mewn cyfarfodydd 2 Banel Arbenigwyr gan 6 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd = 2awr @ £70.00 yr awr = £140.00 

 

 

£140.00

 

 

 

Amser 12 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd i ddosbarthu gwybodaeth am y trafodaethau a gynhaliwyd mewn cyfarfodydd y Paneli ymhlith aelodau allweddol o’u timau (12 x 15 munud).

 

2) 12 Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd x 15 munud = 3 awr @ £70.00 yr awr i ddosbarthu gwybodaeth am y Rheoliadau i staff allweddol = £210.00

 

 

 

£210.00

 

Amser ar gyfer yr holl 22 o awdurdodau lleol i Uwch Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd drafod cyfarfodydd Paneli Arbenigwyr ac wedyn i ymgyfarwyddo â’r goblygiadau o’r Rheoliadau newydd a’r dogfennau canllawiau dwyieithog wedi eu diweddaru ar gyfer Swyddogion Gorfodi a busnesau ac ymarferwyr tyllu’r corff.

 

3) 10 Swyddog Iechyd yr Amgylchedd fesul awdurdod lleol x 22 = 220 i gyd (mae amser rheoli wedi’i gynnwys yn y gyfradd).

220 o Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd x 15 munud @ £50.00 yr awr = £2,750.00 i ymgyfarwyddo â’r Rheoliadau

 

 

£2750.00

Amser i staff gweinyddol yr awdurdodau lleol nodi cyfeiriadau, argraffu a chyhoeddi llythyrau hysbysu a ddrafftiwyd gan Lywodraeth Cymru i fusnesau ac ymarferwyr, i roi gwybod iddynt am y Rheoliadau newydd a’r canllawiau dwyieithog wedi eu diweddaru.

 

 

1) 8 awr i brosesu 500 o lythyrau @ £20.00 yr awr = £160.00 (mae’r costau hyn ar sail Cymru gyfan)

 

 

£1.00 fesul llythyr wedi’i chymeradwyo (i gynnwys postio, papur, argraffu ac amlenni) x 500 o lythyrau (ar sail Cymru gyfan) = £500.00

 

 

£660.00

Amser y Swyddogion Gorfodi i ymdrin ag ymholiadau gan fusnesau ac ymarferwyr yn ôl yr angen.

 

NI ellir ei feintioli

 

 

£N/A

CYFANSWM y Costau

 

£3760.00

 

Busnesau ac Ymarferwyr Tyllu’r Corff

 

31.       Bydd costau ymgyfarwyddo bach iawn ar fusnesau ac ymarferwyr wrth iddynt dreulio ychydig o amser yn: ymgyfarwyddo â’r Rheoliadau newydd a’u goblygiadau ar eu cyfer; ystyried y llythyr eglurhaol a anfonwyd atynt gan eu hawdurdodau lleol a fydd yn nodi gwybodaeth bwysig am y Rheoliadau newydd; ymgyfarwyddo â’r dogfennau canllawiau dwyieithog wedi eu hadolygu sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru; sicrhau eu bod nhw a’u staff yn deall yn llawn oblygiadau y Rheoliadau newydd a’u bod yn gallu cyfleu y goblygiadau hynny i’w cwsmeriaid; a hefyd gweithredu unrhyw newidiadau i’w busnesau a’u prosesau er mwyn sicrhau nad ydyn nhw na’u staff yn perfformio triniaethau rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff unrhyw un o dan 18 oed yng Nghymru gan ddefnyddio “gwrthrych” fel y’i rhagnodir yn y Rheoliadau newydd. O ystyried bod y prif waharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff wedi dod i rym ar 1 Chwefror 2018, a bod y Rheoliadau newydd hyn yn ehangu cwmpas y gwaharddiad hwnnw i gynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” gan gael yr effaith o wahardd tyllu rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio, barn y swyddogion yw na fydd yn feichus iawn i ymarferwyr a busnesau tyllu’r corff ar draws Cymru ddod i ddeall ac addasu i’r newidiadau a gyflwynir gan y Rheoliadau hyn, ac felly bydd y costau cysylltiedig yn fach iawn, ac o ganlyniad nid ydynt wedi eu meintioli.

 

32.       Nododd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl o’r Ddeddf y gallai fod rhywfaint o golled incwm ar gyfer y diwydiant tyllu’r corff yng Nghymru pan gyflwynwyd y ddeddfwriaeth o ran rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ym mis Chwefror 2018. Drwy weithredu nifer o dybiaethau (tudalen 197 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r Ddeddf), mae’r costau hynny wedi eu hamcangyfrif i fod rhwng £2,500 a £495,000 y flwyddyn. Yn ogystal, awgrymwyd yn y trafodaethau a gynhaliwyd â’r ymarferwyr y byddai’r gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yn arwain at ychydig iawn o gostau ariannol iddynt neu ddim costau o gwbl, felly ystyriwyd y byddai’r pen isaf o’r uchod yn edrych yn fwy tebygol.

 

33.       Fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r Ddeddf, yn sgil y lefelau uchel o gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a ddisgwylir, a’r nifer isel o achosion o dorri’r gwaharddiad sy’n debygol o gael eu nodi drwy gwynion neu drwy ymarferion pryniannau prawf, disgwylir na fydd ond nifer bach iawn o ddirwyon ar ymarferwyr tyllu’r corff o ganlyniad i’r gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, ac amcangyfrifir na fydd mwy na chwe erlyniad gan Swyddogion Gorfodi ar draws Cymru bob blwyddyn. Ni ystyriwyd ei bod yn bosibl rhoi ffigur pendant ar gyfer y dirwyon a roddir gan fod gan y Llysoedd Ynadon ddisgresiwn eang, ac o ganlyniad, defnyddiwyd dirwy £5,000 yn sail i’r cyfrifiadau at ddibenion yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol cynharach. Amcangyfrifir felly mai oddeutu £30,000 fydd cyfanswm y dirwyon bob blwyddyn. Yn ogystal, rhagwelwyd y gallai ymarferwyr/busnesau a erlynir orfod talu ffioedd cyfreithiol, adennill costau awdurdodau lleol a rhoi iawndal i ddioddefwr, ac y byddai'r costau hynny yn amrywiol iawn ac felly nid oedd yn bosibl eu hasesu’n gywir. O ystyried y bydd y Rheoliadau newydd yn ehangu cwmpas y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff sydd eisoes ar waith i gynnwys “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith”, gyda'r effaith o wahardd tyllu rhan bersonol o'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych (boed yn emwaith neu beidio) barn y swyddogion yw na fyddai’r costau a amcangyfrifwyd yn flaenorol yn newid o ganlyniad i gyflwyno’r Rheoliadau newydd.

 

 

Effaith ar wneuthurwyr unrhyw "wrthrych"

 

34.       Credir na fydd unrhyw golled refeniw sylweddol i weithgynhyrchwyr sy’n cynhyrchu’r mathau o “wrthrychau” a fydd yn cael eu rhagnodi yn y Rheoliadau. Fel yr amlinellwyd yn y paragraffau uchod, nid oedd yn bosibl meintioli’n gywir y farchnad flaenorol o bobl dan 18 oed a oedd yn dymuno cael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, ond ystyriwyd ei bod yn rhan mor fechan o’r farchnad gyffredinol, na fyddai’r gwaharddiad ar y grŵp oedran hwn yn cael braidd dim effaith ar werthiannau unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith (a gyflwynir yn rhan o’r Rheoliadau newydd hyn), na gemwaith (a gyflwynwyd gyda’r gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff a ddaeth i rym ar 1 Chwefror 2018). 

 

Llysoedd

 

35.       Fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r Ddeddf, y disgwyliad oedd na fyddai’r ddeddfwriaeth rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2018 yn arwain at fwy na 6 erlyniad y flwyddyn yng Nghymru, a daethpwyd i’r casgliad y byddai effaith gyfyngedig iawn ar Lysoedd Cymru. Wrth nodi uchafswm o 6 erlyniad ar gyfer Cymru, ni chynhaliwyd dadansoddiad pellach o gyfran y 6 erlyniad hynny a oedd yn gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio gemwaith, nac o’r gyfran a oedd yn defnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith”. Ni fydd cyflwyno’r Rheoliadau newydd felly yn debygol o gael unrhyw effaith sylweddol ar gynyddu nifer yr erlyniadau y tu hwnt i’r cyfanswm blynyddol o 6 a ddisgwylir ar gyfer Cymru. O ganlyniad, ni fydd unrhyw gostau ychwanegol i’r Llysoedd yn deillio o gyflwyno’r Rheoliadau “gwrthrychau".

 

Costau Cyffredinol

 

36.       Disgwylir mai £3,834.50 fydd cyfanswm cost y Rheoliadau newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r holl randdeiliaid allweddol, a chaiff y gost hon ei gwario tuag at ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/2020 a dechrau 2020/2021.

 

 

 

 

 

 

MANTEISION

 

37.       Bydd cyflwyno’r Rheoliadau yn gwahardd rhag rhoi twll, neu wneud trefniadau i roi twll, mewn rhan bersonol o gorff unrhyw berson o dan 18 oed yng Nghymru gan ddefnyddio unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith. Felly mae hyn yn ymestyn cwmpas y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff i gynnwys tyllu'r corff gan ddefnyddio unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio. Er hynny, fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl o’r Ddeddf, nid oes digon o ddata am nifer y bobl dan oed sydd wedi cael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn y gorffennol (gan ddefnyddio naill ai eitem o emwaith neu wrthrych nad yw'n emwaith) cyn cyflwyno’r cyfyngiad oedran ar 1 Chwefror 2018. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod rhwng 1,067 a 8,672 o bobl dan 18 oed yn cael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff (gan ddefnyddio unrhyw wrthrych boed yn emwaith neu beidio) yng Nghymru bob blwyddyn. Nid yw’n hysbys faint o’r rheini a oedd yn cynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” fel y’i rhagnodir yn y Rheoliadau newydd (yn hytrach na gemwaith), ac felly ni ellir ei feintioli. 

 

Arbedion i’r GIG

 

38.       Y prif fanteision y gellir eu meintioli a nodwyd o dan yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol blaenorol ar gyfer pob math o driniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff oedd arbedion i’r GIG drwy gostau am driniaeth y gellir ei hosgoi. Amcangyfrifwyd bod y costau blynyddol i’r GIG yng Nghymru ar gyfer trin cymhlethdodau i iechyd unigolion dan oed yn sgil rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff rhwng £17,929 a £146,402. Tybiwyd hefyd pe byddai’r gyfradd cydymffurfio â’r gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn 95%, y byddai arbedion blynyddol i’r GIG rhwng £17,032 a £139,082. Byddai rhan o’r costau hyn a amcangyfrifir yn cynnwys yr elfen na ellir ei meintioli o roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio gwrthrych nad yw'n emwaith.

 

39.       Cydnabuwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol blaenorol y gallai'r arbedion posibl hyn i’r GIG beidio â chael eu gwireddu yn llwyr, gan y gallai pobl ifanc dan 18 oed sy’n benderfynol o gael twll mewn rhan bersonol o’r corff chwilio am ymarferydd neu fusnes amheus a fyddai’n fodlon anwybyddu’r gyfraith a darparu triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, neu hyd yn oed dyllu eu cyrff eu hunain. Cydnabuwyd y gallai arferion fel hyn gael eu cynnal mewn amgylchedd anhylan, a allai yn ei dro gynyddu’r risg o gymhlethdodau a’r galw am driniaeth GIG. Cynigiwyd lliniaru hyn drwy becyn gohebiaeth i wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon o ddefnyddio ymarferwyr a busnesau heb eu cofrestru i berfformio triniaethau tyllu’r corff. Crëwyd taflen “Cwestiynau ac Atebion” i bobl ifanc dan 18 oed a’u rhieni/gwarcheidwaid yn rhan o’r deunyddiau gwybodaeth a gynhyrchwyd ar gyfer cychwyn y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff ar 1 Chwefror 2018.

 

Arbedion Eraill

 

40.       Yn ogystal â’r arbedion posibl i’r GIG a nodwyd uchod, mae nifer o fanteision eraill i’r ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n fwy anodd eu meintioli. Effaith y Rheoliadau hyn fydd ehangu’r gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed i gynnwys pob gwrthrych, boed yn emwaith neu beidio, gan roi eglurder i’r sefyllfa ar gyfer ymarferwyr a chleientiaid posibl. Nododd llawer o ymarferwyr a gysylltodd â Llywodraeth Cymru yn ystod hynt y Ddeddf nad ydynt yn perfformio triniaethau rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff ar bobl ifanc. Nod y Rheoliadau yw atgyfnerthu arfer da yr ymarferwyr a chodi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ba mor ddifrifol yw’r niwed posibl i iechyd a’r peryglon a achosir gan roi twll mewn rhan bersonol o’r corff.

 

41.       Ni ystyrir y bydd unrhyw fantais sylweddol i’r Heddlu, ond bydd ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff i gynnwys unrhyw “wrthrych” yn rhoi eglurder i Swyddogion Gorfodi yr awdurdodau lleol o ran dehongli’r rhan o’r Ddeddf yn ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff sy’n trafod gorfodi a/neu erlyn mewn achosion o beidio â chydymffurfio.

 

42.       Bydd ehangu’r darpariaethau i gynnwys unrhyw “wrthrych” yn fantais i bobl ifanc hefyd. Yr amcangyfrifon blaenorol oedd bod rhwng 51 a 416 o bobl dan 18 oed yn dioddef o gymhlethdodau i’w hiechyd ar ôl triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, a olygai bod yn rhaid iddynt gael cymorth gan feddyg teulu. Amcangyfrifwyd hefyd y gallai fod rhwng 82 a 668 o bobl dan 18 oed a gafodd triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn ceisio cymorth gan fferyllwyr, neu mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys (rhwng 24 a 199), neu’n cael gofal fel cleifion mewnol (rhwng 34 a 277), ac efallai bod eraill â chymhlethdodau iechyd yn ceisio cymorth gan ymarferwyr tyllu’r corff, neu’n peidio â cheisio cymorth o gwbl. Mae cymhlethdodau iechyd megis poen, anghysur a gorbryder yn arwain at gostau i'r unigolion yn ogystal â’r GIG, ac felly bydd lleihau’r risg o’r cymhlethdodau hyn drwy wahardd rhag rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 gan ddefnyddio unrhyw “wrthrych” yn fuddiol, er na ellir meintioli’r manteision.

 

43.       Bydd y manteision a gyflawnir gan y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, a ddaeth i rym ar 1 Chwefror 2018, o ran diogelu plant a phobl ifanc rhag bod mewn sefyllfa lle y gallent fod yn agored i niwed wrth gael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, yn cael eu hatgyfnerthu gan y rheoliadau hyn, a fydd yn ymestyn y gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yng Nghymru i gynnwys unrhyw wrthrych, boed yn emwaith neu beidio. 

 

 

Crynodeb a’r Dewis a Ffefrir

 

44.       Byddai Dewis Un yn cadw’r sefyllfa bresennol, lle mae'r gwaharddiad ar roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 yn cynnwys rhoi twll gan ddefnyddio gemwaith yn unig. Ni fyddai hyn felly yn cyfrannu at ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru ymhellach rhag y niwed tebyg y gellid ei achosi i’w hiechyd drwy roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych”. Hefyd, ni fyddai’n cyfrannu at y nod o gael gwared ar amgylchiadau pan fo plant a phobl ifanc a allai fod yn dymuno cael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle y gallent fod yn agored i niwed”. 

 

45.       Dewis Dau yw’r dewis a ffefrir a’r dewis a fyddai’n cyfrannu, drwy gyflwyno’r Rheoliadau, at ddiogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru ymhellach rhag y niwed y gellid ei achosi i’w hiechyd drwy roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio “unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith” fel y’u rhagnodwyd yn y Rheoliadau. Hefyd, byddai’n cyfrannu at y nod o gael gwared ar amgylchiadau lle bo plant a phobl ifanc a allai fod yn dymuno cael triniaeth i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff gan ddefnyddio unrhyw “wrthrych” yn cael eu rhoi mewn sefyllfa lle y gallent fod yn agored i niwed. Bydd cyflwyno’r Rheoliadau hefyd yn helpu i leihau'r achosion newydd o gymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thyllu’r corff, gan gynnwys heintiau ac anafiadau.

 



[1] http://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2017/2/contents/enacted

[2] Hayes, MO. Harkness, GA. (2001) Body piercing as a risk factor for viral hepatitis: an integrated research review. American Journal of Infection Control. 29, 271-274.

[3] Bone, A. Ncube, F. Nichols, T a Noah, ND. (2008) Body piercing in England: a survey of piercing at sites other than earlobe. BMJ, 336, 1426.

[4] http://www.assembly.wales/Laid%20Documents/PRI-LD10796-EM/PRI-LD10796-EM-w.PDF

[5] https://gov.wales/topics/health/nhswales/act/piercing/?skip=1&lang=cy

 

[6] Ystyr ‘personau’ yw busnesau cofrestredig a rhai nas cofrestrwyd, yn ogystal ag unigolion sy’n gweithredu y tu allan i fusnes.